The Wayback Machine - https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk:80/
lili'r wyddfa












 
CYMDEITHAS EDWARD LLWYD
CYMDEITHAS GENEDLAETHOL NATURIAETHWYR CYMRU
lili'r wyddfa

Prif weithgaredd y Gymdeithas, a ffurfiwyd yng Ngorffennaf 1978, yw'r rhaglen gynhwysfawr o deithiau cerdded a gynhelir ledled Cymru ar bron bob dydd Sadwrn o'r flwyddyn. Trefnir yn flynyddol dros 100 o deithiau, pob un dan ofal arweinydd sydd a diddordeb arbennig mewn gwahanol agweddau ar fyd natur a hanes Cymru.

llun cregennen
Llun Yr Wyddfa
Llun llanerch Llun Afon Dwyryd Llun Bae Rhosili
Llun Amgueddfa Llechi Llanberis

Yn ogystal a'r teithiau poblogaidd mae'r Gymdeithas yn:

  • trefnu cyfarfodydd cymdeithasol a darlithoedd fin nos
  • cynnal pabell ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol
  • cynnal cyfarfod blynyddol, a gynhelir yn yr hydref
  • cyhoeddi Y Naturiaethwr ddwywaith y flwyddyn
  • cyhoeddi Cylchlythyr ddwywaith y flwyddyn
  • cyhoeddi llyfrau ar enwau Cymraeg creaduriad a phlanhigion
  • lleisio barn gyhoeddus ar faterion amgylcheddol
  • trefnu pris gostyngol gyda nifer o siopau dillad ac offer awyr agored
  • cynnig grantiau bob blwyddyn am waith gwreiddiol ym myd natur
  • cynnal cyfarfodydd gwaith cadwriaethol

 

Gwadiad

Morty Proxy This is a proxified and sanitized view of the page, visit original site.