Neidio i'r cynnwys

William John Gruffydd (Elerydd)

Oddi ar Wicipedia
William John Gruffydd
Elerydd yn ennill y Goron ym 1955
Ganwyd24 Medi 1916 Edit this on Wikidata
Sir Aberteifi Edit this on Wikidata
Bu farw21 Ebrill 2011 Edit this on Wikidata
Llanelli Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Gweler hefyd William John Gruffydd.

Llenor a aned yn Ffair-rhos, Ceredigion, oedd William John Gruffydd (24 Medi 191621 Ebrill 2011),[1] a adnabyddir yn well fel W. J. Gruffydd neu Elerydd.

Cyfeiria ei enw barddol 'Elerydd' at afon Leri (neu Eleri) gerllaw ei gartref yn Nhal-y-bont lle'r oedd yn weinidog ar Eglwys Fedyddiedig y Tabernacl pan goronwyd ef am ei bryddest 'Ffenestri' yn Eisteddfod Pwllheli ym 1955. Aeth ymlaen i gipio'r goron eto yng Nghaerdydd ym 1960 am bryddest ar y testun 'Unigedd'[2]. Mae'n adnabyddus am ei gerddi a'i gyfrolau o straeon am helyntion y cymeriadau annwyl Tomos a Marged.

Bu'n Archdderwydd o 1984 hyd 1987.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Cerddi:

  • Ffenestri (1961)
  • Cerddi'r Llygad (1973)

Nofelau:

  • Hers a cheffyl (1967)
  • Cyffwrdd â'i Esgyrn (1969)
  • Angel heb Adenydd (1971)

Straeon: Cyfres am helyntion 'Tomos a Marged'

Hunangofiant:

Arall:

  • Folklore and myth (1964)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Stephens, Meic (20 Gorffennaf 2011). WJ Gruffydd: Writer who helped keep alive the Welsh tradition of ‘country poets’. The Independent. Adalwyd ar 19 Gorffennaf 2013.
  2. "Enillwyr y Goron". Eisteddfod. Cyrchwyd 16 Chwefror 2026.
William John Gruffydd (Elerydd)
Morty Proxy This is a proxified and sanitized view of the page, visit original site.