Santorini
Gwedd
| Math | ynys, cyrchfan i dwristiaid |
|---|---|
| Poblogaeth | 17,430 |
| Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Groeg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Cyclades, Santorini archipelago |
| Sir | Bwrdeistref Thira |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 79.194 km² |
| Uwch y môr | 567 metr |
| Gerllaw | Môr Aegeaidd |
| Cyfesurynnau | 36.415°N 25.4325°E |
| Cod post | 847 00, 847 02 |
![]() | |
Ynys yng Ngwlad Groeg yw Santorini (Groeg: Σαντορίνη), hefyd Thera neu Thira, Groeg: Θήρα. Gydag ynys Therasia a nifer o ynysoedd llai, mae'n ffurfio cylch o amgylch y callor a ffurfiwyd pan ddinistriwyd llosgfynydd gan ffrwydrad folcanig anferth. Hwy yw'r mwyaf deheuol o ynysoedd y Cyclades, tua 70 milltir i'r gogledd o ynys Creta, gyda phoblogaeth o 13,402 yn 2001.
Digwyddodd y ffrwydrad a greodd yr ynysoedd tua 3,600 o flynyddoedd yn ôl, a chred rhai ysgolheigion mai effeithiau'r ffrwydrad yma fu'n gyfrifol am ddiwedd y Gwareiddiad Minoaidd.
Y ddinas fwyaf yw Fira. Mae'n gyrchfan boblogaidd i dwristiaid, gyda nifer o safleoedd archaeolegol diddorol yn ogystal a'r golygfeydd.

