Neidio i'r cynnwys

Mark Hughes

Oddi ar Wicipedia
Mark Hughes
GanwydLeslie Mark Hughes Edit this on Wikidata
1 Tachwedd 1963 Edit this on Wikidata
Wrecsam Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethpêl-droediwr, rheolwr pêl-droed Edit this on Wikidata
Taldra178 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau75 cilogram Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auF.C. Bayern München, CPD Barcelona, Manchester United F.C., Blackburn Rovers F.C., Chelsea F.C., Southampton F.C., Everton F.C., Manchester United F.C., Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Safleblaenwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Rheolwr a cyn-chwaraewr pêl-droed o Gymru yw Leslie Mark Hughes (ganwyd 1 Tachwedd 1963). Mae ganddo'r llysenw Sparky a gymerodd o'r llyfr comics o'r un enw.[1] Cafodd 72 cap am chwarae dros Gymru.

Cafodd ei eni a'i fagu yn Rhiwabon, Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Yn blentyn roedd yn cefnogi ei dîm pêl-droed lleol, Wrecsam.[2]

Bu'n chwarae i Manchester United (dwywaith), Bayern Munich, Chelsea, Southampton, Everton a Blackburn Rovers. Yn 1999 fe'i benodwyd yn rheolwr rhan amser ar dîm cenedlaethol Cymru ac yn ddiweddarach yn rheolwr llawn amser. Yn mis Hydref 2004 fe ymddiswyddodd fel rheolwr Cymru er mwyn rheoli Blackburn Rovers hyd 2008. Bu'n rheolwr ar Manchester City o 2008 hyd at Ragfyr 2009 a rheolwr Fulham o Orffennaf 2010 i Fehefin 2011. Bu'n reolwr Queens Park Rangers rhwng Ionawr a Thachwedd 2012.

Ymddangosiad ar C'mon Midffîld!

[golygu | golygu cod]

Chwaraeodd Mark Hughes ei hun mewn rôl cameo yn y bennod 'Gweld Sêr' o'r gyfres C'mon Midffîld! ar S4C yn 1990. Ymddangosodd Mark i syndod pawb wedi iddo gael gwahoddiad drwy fab i chwaer yng nghyfraith Wali Thomas, a oedd yn nai i ewythr cyfnither Mark. Wrth ymddangos ar y cae fe ofynnodd i Mr Picton, "Siawns am gêm?" (yn Gymraeg), cyn mynd ar y cae a sgorio gôl. Bu'n eistedd wrth ochr Wali yn gymanfa ganu'r capel ar ddiwedd y rhaglen, er na chanodd.

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Ysgrifennodd Hughes ei hunanfywgraffiad yn 1990 gyda'r teitl Sparky – Barcelona, Bayern and Back.[3] Derbyniodd OBE am wasanaethau i bêl-droed yn Anrhydeddau Pen-blwydd 2004. Mae'n briod â Jill ers canol yr 1980au. Ganwyd dau fab iddynt, Alex a Curtis a merch Xenna,[4] sy'n chwarae hoci i Gymru.[5] Bu farw Alex yn sydyn yn Mehefin 2026.[6]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Rhagflaenydd:
Bobby Gould
Rheolwr Tîm Pêl-droed Cymru
Awst 1999Medi 2004
Olynydd:
John Toshack
Rhagflaenydd:
Graham Souness
Rheolwr Blackburn Rovers F.C.
Medi 2004Mehefin 2008
Olynydd:
Paul Ince
Rhagflaenydd:
Sven-Göran Eriksson
Rheolwr Manchester City F.C.
Mehefin 2008Rhagfyr 2009
Olynydd:
Robert Mancini
Rhagflaenydd:
Roy Hodgson
Rheolwr Fulham F.C.
Gorffennaf 2010Mehefin 2011
Olynydd:
Martin Jol
Rhagflaenydd:
Neil Warnock
Rheolwr Queens Park Rangers F.C.
Ionawr 2012Tachwedd 2012
Olynydd:
Harry Redknapp
Rhagflaenydd:
Joe Calzaghe
Personoliaeth Chwaraewr y Flwyddyn BBC Cymru
2002
Olynydd:
Nicole Cooke

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "One-on-One with Mark Hughes". FourFourTwo. Mai 2007. Cyrchwyd 30 May 2013.
  2. "Sparky backs Wrexham FC for glory". The Leader. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Chwefror 2016. Cyrchwyd 6 Awst 2013.
  3. "Manchester United Player & Manager Biographies & Autobiographies". prideofmanchester.com. Cyrchwyd 31 May 2013.
  4. Ridley, Ian (23 Hydref 2011). "Profile: Main man of United". The Independent. Cyrchwyd 27 Ionawr 2021.
  5. Cole, Rob (5 Awst 2017). "How a Welsh football icon's daughter is about to overtake him". WalesOnline. Cyrchwyd 3 April 2018.
  6. "Mark Hughes yn rhoi teyrnged wedi marwolaeth 'sydyn ac annisgwyl' ei fab Alex". newyddion.s4c.cymru. 21 Mehefin 2026. Cyrchwyd 21 Mehefin 2026.
Mark Hughes
Morty Proxy This is a proxified and sanitized view of the page, visit original site.