John Locke
| John Locke | |
|---|---|
Portread o John Locke (1697) gan Godfrey Kneller (1646–1723) | |
| Ganwyd | 29 Awst 1632 (yn y Calendr Iwliaidd) Wrington |
| Bu farw | 28 Hydref 1704 (yn y Calendr Iwliaidd) High Laver |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | athronydd, gwleidydd, meddyg, ysgrifennwr, gwyddonydd, athronydd y gyfraith |
| Cyflogwr |
|
| Adnabyddus am | An Essay Concerning Human Understanding, Two Treatises of Government, A Letter Concerning Toleration, Some Thoughts Concerning Education, Of the Conduct of the Understanding, The prince and the cobbler |
| Prif ddylanwad | Thomas Hobbes, René Descartes, Hugo Grotius, Robert Filmer, Samuel von Pufendorf, Thomas Sydenham, Anthony Ashley Cooper, Damaris Cudworth Masham |
| Mudiad | empiriaeth |
| Tad | John Locke |
| Mam | Agnes Keene |
| Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
| llofnod | |
Athronydd gwleidyddol a meddyg o Loegr oedd John Locke (29 Awst 1632 – 28 Hydref 1704).
Dylanwadodd ei ysgrifau ar ddamcaniaeth y cyfamod cymdeithasol ar Voltaire a Rousseau, llawer o feddylwyr yr Oleuedigaeth yn yr Alban, a'r chwyldroadwyr Americanaidd. Mae ei syniadau wedi'u crybwyll yn Natganiad Annibyniaeth America.
Y prif themâu a drafodir yn ei weithiau ydy cymdeithas, hawliau ac eiddo. Roedd ei ddamcaniaethau fel arfer yn ymwneud â hunaniaeth a'r hunan. Roedd yn credu bod pobl yn cael ein geni heb feddyliau, a bod gwybodaeth yn cael ei phennu gan brofiad yn unig.
Bywyd
[golygu | golygu cod]Roedd tad Locke, a oedd hefyd yn cael ei alw'n John Locke, a'i fam, Agnes Keene, yn Biwritaniaid. Roedd ei dad yn gyfreithiwr gwledig a oedd wedi gwasanaethu fel capten ym Myddin y Senedd yn Rhyfel Cartref Lloegr. Ganwyd Locke ar 29 Awst 1632, mewn bwthyn wrth ymyl yr eglwys yn Wrington, Gwlad yr Haf, tua 12 milltir (19 km) o Fryste. Cafodd ei fedyddio pan gafodd ei eni. Ar ôl hynny, symudodd ei deulu yn fuan i Pensford yn yr un sir.
Ym 1647 anfonwyd Locke i astudio yn Ysgol Westminster, Llundain, ac ym 1652 i Eglwys Crist, Rhydychen. Er bod Locke yn fyfyriwr galluog, nid oedd yn hoff o'r cwricwlwm clasurol. Trwy ei ffrind Richard Lower, yr oedd wedi cwrdd ag ef yn Ysgol Westminster, dysgodd Locke am feddygaeth a gwyddoniaeth. Ar ôl iddo dderbyn ei radd baglor ym 1656 bu'n ymarfer meddygaeth yn Rhydychen ac yn y pen draw dyfarnwyd gradd baglor mewn meddygaeth iddo ym 1675.
Ym 1666 cyfarfu ag Anthony Ashley Cooper, yr Arglwydd Cooper bryd hynny, a oedd wedi dod i Rydychen i geisio triniaeth am haint yn yr afu. Wedyn cyflogodd Ashley Locke fel ei feddyg personol yn Llundain. Yn Llundain dilynodd Locke ei astudiaethau meddygol o dan oruchwyliaeth Thomas Sydenham, a gafodd effaith bwysig hefyd ar syniadau Locke am athroniaeth naturiol. Fel sylfaenydd y mudiad Chwigaidd, cafodd Ashley ddylanwad mawr ar syniadau gwleidyddol Locke. Daeth Locke i ymwneud â gwleidyddiaeth pan ddaeth Ashley yn Arglwydd Ganghellor yn 1672. (Crëwyd Ashley yn Iarll 1af Shaftesbury yn 1673.) Collodd Shaftesbury ei ffafr ym 1675, ac aeth Locke ar deithiau ledled Ffrainc fel tiwtor a chynorthwyydd meddygol i'r gwleidydd Caleb Banks. Dychwelodd i Loegr yn 1679 pan ddychwelodd Shaftesbury i ffafr. Tua'r adeg hon cyfansoddodd Locke y rhan fwyaf o'i Two Treatises of Government.
Yn 1683 ffodd Locke i'r Iseldiroedd yng nghwmni Shaftesbury, dan amheuaeth o fod yn rhan o Gynllwyn Rye House, a oedd yn gynllun i lofruddio y brenin Charles II. Tra roedd yn yr Iseldiroedd, treuliodd Locke lawer iawn o'i amser yn gweithio ar yr Essay Concerning Human Understanding a'r Letter on Toleration. Ni ddychwelodd i Loegr tan ar ôl y Chwyldro Gogoneddus, pan aeth yn gwmni Mari II yn 1689. Ar ôl cyfnod hir o afiechyd bu farw ym 1704.
Syniadau Locke
[golygu | golygu cod]Hawliau
[golygu | golygu cod]Cred Locke fod yna hawliau naturiol mewn grym; cred fod y cyfreithiau naturiol yma yn deillio gan Dduw. Noda fod pawb yn eiddo i Dduw a phawb a'r gallu i resymu. Felly gan ein bod ni gyd yn hafal (h.y. yn eiddo i Dduw) ac ein bod ni'n medru rhesymu noda Locke os ydym ni'n mwynhau yr hawliau naturiol fe ddylem ni barchu fod eraill eisiau'r run hawliau hefyd. Noda fod hawl gan ddyn amddiffyn ei hun a chosbi pobl sy'n torri'r cyfreithiau/hawliau naturiol
Awdurdod
[golygu | golygu cod]Mae Locke yn nodi fod ei ymdriniaeth ef yn wahanol i un Hobbes, ef sy'n trafod dyn yn y cyflwr naturiol tra bod Hobbes yn ei drafod mewn cyflwr o ryfel. Gwahaniaeth arall rhwng Lock a Hobbes ydy fod Locke yn credu fod hawl gwrthwynebu'r awdurdod. Cred Hobbes fod yr awdurdod yn absoliwt sofran, dim modd ei wrthwynebu. Ond cred Locke fod hawl ei wrthwynebu os yw'n methu yn ei dasg o warchod hawliau naturiol pobl.
Eiddo
[golygu | golygu cod]Credu fod y byd a'i ffrwythau i bawb yn gyffredin; ond mae rhoi gwaith mewn i rywbeth yn ei wneud yn eiddo i chi. E.e. dwr yn y ffynnon yn eiddo i bawb - dwr wedi ei godi o'r ffynnon yn eiddo i'r dyn a'i gododd o’r ffynnon. Defnyddia Locke y theori yma yn ei amddiffyniad o goloneiddio. Er fod y tir yn eiddo i bawb, gan gynnwys y brodorion; oherwydd mae llafur a thechnoleg y gorllewinwyr sydd wedi cloddio am y mwynau ayyb.. Y gorllewinwyr sydd yn berchen ar yr eiddo oherwydd nhw gwnaeth y llafur.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Prif weithiau
[golygu | golygu cod]- (1689) A Letter Concerning Toleration
- (1690) A Second Letter Concerning Toleration
- (1692) A Third Letter for Toleration
- (1689) Two Treatises of Government
- (1689) An Essay Concerning Human Understanding
- (1693) Some Thoughts Concerning Education
- (1695) The Reasonableness of Christianity, as Delivered in the Scriptures
- (1695) A Vindication of the Reasonableness of Christianity
Gwaith na chyhoeddwyd yn ystod ei oes
[golygu | golygu cod]- (1660) First Tract on Government (neu yr English Tract)
- (c.1662) Second Tract on Government (neu y Latin Tract)
- (1664) Questions Concerning the Law of Nature (Testun Lladin, gyda chyfieithiad Saesneg yn, Robert Horwitz et. al. (gol.), John Locke, Questions Concerning the Law of Nature, Ithaca: Cornell University Press, 1990).
- (1667) Essay Concerning Toleration
- (1706) Of the Conduct of the Understanding
- (1707) A Paraphrase and Notes on the Epistles of St. Paul
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Alan P. F. Sell, John Locke and the Eighteenth-Century Divines (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1997).
- Genedigaethau 1632
- Marwolaethau 1704
- Athronwyr yr Oleuedigaeth
- Athronwyr gwleidyddol o Loegr
- Athronwyr yr 17eg ganrif o Loegr
- Athronwyr y 18fed ganrif o Loegr
- Cyn-fyfyrwyr Eglwys Crist, Rhydychen
- Llenorion ffeithiol yr 17eg ganrif o Loegr
- Llenorion ffeithiol y 18fed ganrif o Loegr
- Llenorion ffeithiol Lladin o Loegr
- Llenorion ffeithiol Saesneg o Loegr
- Meddygon yr 17eg ganrif o Loegr
- Pobl addysgwyd yn Ysgol Westminster
- Pobl o Wlad yr Haf