Neidio i'r cynnwys

Iseldireg

Oddi ar Wicipedia
Iseldireg
Nederlands
Ynganiad IPA [ˈneːdərlɑnts]
Siaredir yn yn bennaf yr Iseldiroedd, Gwlad Belg a Swrinam, hefyd yn Arwba, Curaçao a Sint Maarten, yn ogystal ag Awstralia, Awstria, Brasil, Canada, Denmarc, Ffrainc, yr Almaen, Indonesia, Lwcsembwrg, Sbaen, Sweden, De Affrica, yr Unol Daleithiau a'r Deyrnas Unedig.
Rhanbarth yn bennaf yng Ngogledd Ewrop, heddiw hefyd yn Ne America a'r Caribî.
Mae Affricaneg yn cael ei siarad yn Ne Affrica.
Cyfanswm siaradwyr 23.5 miliwn (2006)[1]
Cyfanswm: 28 miliwn
Teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd
System ysgrifennu Lladin (Yr wyddor Iseldireg)
Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn Baner Arwba Arwba
Baner Gwlad Belg Gwlad Belg
Baner Curaçao Curaçao
Baner Yr Iseldiroedd Yr Iseldiroedd
Baner Sint Maarten Sint Maarten
Baner Swrinam Swrinam

Nodyn:Country data Benelux
Yr Undeb Ewropeaidd
 Undeb Gwledydd De America
Rheoleiddir gan Nederlandse Taalunie
(Undeb yr Iseldireg)
Codau ieithoedd
ISO 639-1 nl
ISO 639-2 dut (B)  nld (T)
ISO 639-3 nld
Wylfa Ieithoedd 52-ACB-a (mathau:
52-ACB-aa to -an)

Y wlad Iseldireg. Un o Ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd ac Undeb Gwledydd De America yw'r Iseldireg.

Iaith frodorol yr Iseldiroedd ydy Iseldireg (Nederlands:"Cymorth – Sain" ynganiad Iseldireg ). Mae hi'n rhan o'r teuluoedd ieithyddol Indo-Ewropeaidd. Mae'n perthyn i'r teulu ieithyddol Germanaidd fel Saesneg ac Almaeneg fodern.

Gwledydd lle y siaredir Iseldireg

[golygu | golygu cod]
Map yn dangos lle siaredir Iseldireg yn Ewrop.

Siaredir Iseldireg gan bron holl ddinasyddion yr Iseldiroedd a Fflandrys. Iaith frodorol Fflandrys ydy Fflemeg tafodiaith o'r Iseldireg i rai, ond iaith ar wahân i lawer. Cai ei galw'n Vlaams Fflemeg yn aml iawn yn Fflandrys er nad oes lawer iawn o wahaniaethau o fewn yr Iseldireg yr Iseldiroedd a Gwlad Belg. Siaredir hi hefyd yn ardaloedd dwyieithog Brwsel ynghyd â Ffrangeg ac ieithoedd eraill. Yn y rhan fwyaf gogleddol o Ffrainc, arrondissement Dunkirk, siaredir Iseldireg o hyd fel iaith leiafrifol a elwir hefyd yn Vlaams. Ar ynysoedd Arwba ac Antilles yr Iseldiroedd defnyddir Iseldireg o hyd ond mae'n llai cyffredin na Papiamento a Saesneg. Siaredir Iseldireg fel mamiath o hyd yn Swrinam gan tua 60% o'r boblogaeth, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn ddwyieithog gyda Sranan Tongo neu ieithoedd ethnig eraill. Mae yna nifer o siaradwyr Iseldireg yng ngwledydd gyda mewmfudwyr o'r Iseldiroedd a Fflandrys fel Canada, Awstralia, Seland Newydd ac UDA. Mae'r Affricaneg sydd yn fwy neu lai dealladwy i siaradwr yr Iseldireg yn cael ei siarad yn Ne Affrica a Namibia. Mae yna hefyd nifer o siaradwyr Iseldireg yn Indonesia.

Geirfa

[golygu | golygu cod]

Mae geirfa'r Iseldireg yn un o'r rhai cyfoethocaf yn y byd gydag o leiaf 186,000 gair.

Fel Saesneg, mae Iseldireg yn cynnwys geiriau o'r Roeg a Lladin. Daeth y rhan fwyaf o fenthynciadau o'r Ffrangeg drwy'r Iseldiroedd. Digwyddodd hyn oherwydd y meddylfryd ddaeth gyda'r Ffrangeg mai iaith y dosbarthiadau cymdeithasol cyfoethog yw hi, ac felly cafodd nifer o eiriau Ffrangeg eu mabwysiadau gan ddosbarthiadau uwch yr Iseldiroedd. Ni ddigwyddodd hyn yng Ngwlad Belg oherwydd roedd dinasyddion y dosbarthiadau uwch yn siarad Ffrangeg ac felly doedd dim angen addasu iaith eu hunain. Dylanwadodd termau Ffrangeg yn fawr ar dafodau Iseldireg yn Fflandrys, ond mae siaradwyr Belgaidd yn dueddol o beidio defnyddio benthyciadau Ffrangeg wrth siarad Iseldireg safonol. Serch hynny mae yna nifer o eiriau wedi eu benthyg o'r Ffrangeg yn eithaf diweddar er nad oes ganddynt yr un gwerth. Er enghraifft, mae'r gair blesseren (o'r Ffrangeg blesser ‘niweidio’) yn cyfeirio at anafiadau chwaraeon yn unig, tra defnyddir y berfau Iseldireg safonol kwetsen a verwonden yng nghyd-destunau eraill o hyd.

Ar y strydoedd yn enwedig mae yna gynnydd ym menthyciadau o'r Saesneg er eu bod yn cael eu hynganu'n wahanol. Cai'r mewnlifiad o eiriau Saesneg i'r iaith ei gryfhau gan arglwyddiaeth yr Saesneg yn y cyfryngau a'r we. Yn annhebyg i ieithoedd eraill mae'r Iseldireg yn mabwysiadu'r geiriau hyn heb lawer o brotest. Yn wir nid yw ymdrechion i greu fersiynau Iseldireg o'r geiriau newydd wedi bod yn llwyddiannus iawn.

Cymharu ag ieithoedd Germanaidd eraill

[golygu | golygu cod]
ystyr Saesneg Ffrisieg y Gorllewin Affricaneg Iseldireg Isel Almaeneg Almaeneg Swedeg Daneg
afalappleappelappelappelAppelApfeläppleæble
bwrddboardboardbordbordBoordBrettbrädebræt
ffawydd(en)beechboeke(beam)beukbeukBöökBuchebokbøg
llyfrbookboekboekboekBookBuchbokbog
bronbreastboarstborsborstBostBrustbröstbryst
brownbrownbrúnbruinbruinbruunbraunbrunbrun
dydddaydeidagdagDagTagdagdag
marwdeaddeadooddooddoottotdöddød
marw (trengi)diestjerresterfstervenstarvensterben
digonenoughgenôggenoeggenoeg(ge)nooggenugnognok
bysfingerfingervingervingerFingerFingerfingerfinger
rhoigivejaangeegevengevengebengiva, gegive
gwydrglassglêsglasglasGlasGlasglasglas
aurgoldgoudgoudgoudGoldGoldguldguld
llawhandhânhandhandHandHandhandhånd
penheadhollehoof, kophoofd, kopKopp, HöövdKopfhuvudhoved
uchelhighheechhooghooghooghochhöghøj
cartrefhomehiemheim, tuisheim, thuisHeemHeimhemhjem
bach(yn)hookhoekhaakhaakHaakHakenhake, krokhage, krog
househûshuishuisHuusHaushushus
llawermanymannichmenigemenigemännigmanchmångamange
canol dyddnoonmoannemaanmaanMaan(d)Mondmånemåne
nosnightnachtnagnachtNachtNachtnattnat
na(ge)noneeneeneeneeneinnejnej
henold (older, oldest)âldoudoud (ouder, oudst)ooltaltgammal (äldre, äldst)gammel (ældre, ældst)
unoneieneeneeneeneinenen
ownsounceûnsonsonsOnsUnzeunsunse
eirasnowsniesneeusneeuwSneeSchneesnösne
carregstonestiensteensteenSteenSteinstensten
hynnythatdatdit, daardiedat, diedatdasdetdet
dau, dwytwotwatweetweetweezweitvåto
pwywhowawiewiewe(r)wervemhvem
abwydyn, mwydynwormwjirmwurmwormWorm, WörmWurmmask[2]orm
ystyr Saesneg Ffrisieg y Gorllewin Affricaneg Iseldireg Isel Almaeneg Almaeneg Swedeg Daneg

Gramadeg

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Iseldireg)  Gwall wrth ddefnyddio Nodyn:Dyf gwe: mae'r paramedrau url a teitl yn angenrheidiol.. Nederlandse Taalunie (2010).
  2. Mae'r gair cytras orm yn golygu ‘neidr’.

Dolen Allanol

[golygu | golygu cod]

Geiriaduron

[golygu | golygu cod]
Wikipedia
Wikipedia
Argraffiad Iseldireg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd
Wiciadur
Wiciadur
Chwiliwch am Iseldireg
yn Wiciadur.
Iseldireg
Morty Proxy This is a proxified and sanitized view of the page, visit original site.