Neidio i'r cynnwys

Evan Rees (Dyfed)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Evan Rees)
Evan Rees
FfugenwDyfed Edit this on Wikidata
Ganwyd1 Ionawr 1850 Edit this on Wikidata
Cas-mael Edit this on Wikidata
Bu farw19 Mawrth 1923 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
SwyddArchdderwydd, Prifardd Edit this on Wikidata
Gwobr/auCadair yr Eisteddfod Genedlaethol Edit this on Wikidata

Bardd o Sir Benfro a oedd yn un o ffigyrau amlwg byd yr Eisteddfod yn chwarter olaf y 19g oedd Evan Rees (1 Ionawr 185019 Mawrth 1923), sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol Dyfed (hefyd Dyfedfab).

Ganed Dyfed ym mhlwyf Cas-mael, Sir Benfro, yn 1850, ond cafodd ei fagu yn Aberdâr ar ôl i'w rieni symud yno. Bu'n gweithio yn y pwll glo lleol am flynyddoedd cyn dod yn weinidog a symud i fyw yng Nghaerdydd.

Cafodd yrfa lwyddiannus fel bardd eisteddfodol. Coron ei yrfa efallai oedd ennill y Gadair yn Eisteddfod Ffair y Byd, Chicago yn 1893 ar y testun 'Iesu o Nazareth'. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn Eisteddfodau 1881 ar y testun 'Cariad', 1884 ar 'Gwilym Hiraethog', 1889 ar 'Y Beibl Cymraeg' ac 1901 ar 'Y Diwygiwr'. Mae'r cyfanswm yma o bedair Cadair yn parhau yn record hyd heddiw, er bod Dewi Emrys wedi ailadrodd y gamp. Cysylltwyd ef â mudiad y Bardd Newydd,[1] fodd bynnag roedd ei bwyslais ar y mesurau caeth yn wahanol i'r arfer ymhlith yr ysgol honno.

O 1905 hyd ei farwolaeth yn 1923 bu'n Archdderwydd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain.

Llyfryddiaeth ddethol

[golygu | golygu cod]
  • Caniadau Dyfedfab (1875)
  • Gwaith Barddonol Dyfed (d.d.)
  • Gwlad yr Addewid a Iesu o Nazareth (1894)
  • Oriau gydag Islwyn (d.d.)
  1. Elphin, "Enwogion Cymru", y Geninen Hydref 1895 tt.262-268; Ionawr 1896 tt.67-78.
Evan Rees (Dyfed)
Morty Proxy This is a proxified and sanitized view of the page, visit original site.