Cronicl
Tudalen o Liber Chronicarum (Cronicl Nürnberg), cronicl Lladin a gyflawnwyd gan Hartmann Schedel ym 1493. | |
| Enghraifft o: | genre llenyddol |
|---|---|
| Math | tysteb personol, historiography, gwaith ysgrifenedig, gwaith llenyddol |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/023py |
Cofnod ysgrifenedig o ddigwyddiadau ac o pryd y digwyddasant, yn nhrefn amser, yw cronicl. Fel rheol mae croniclau yn cyflwyno ffeithiau neu adroddiad syml heb fawr o ddehongli, yn wahanol i hanesion dadansoddol. Buont yn ffurf hynafol ar ysgrifennu hanesyddol ac yn fodd pwysig o gofnodi cof y gymuned a throsglwyddo hanes traddodiadol wrth drawsnewid o draddodiadau llafar i ddiwylliannau llythrennog. Blodeuai'r cronicl yn Ewrop yn ystod yr Oesoedd Canol a'r Dadeni Dysg, ac mae esiamplau'n cynnwys Annales Cambriae, Historia regum Britanniae gan Sieffre o Fynwy, Chroniques Jean Froissart, a Chronicles of England, Scotlande, and Irelande gan Raphael Holinshed. Benthycir yr enw o'r Saesneg Canol (chronique neu c[h]ronicle),[1] sy'n deillio yn y bôn o'r gair Groeg chrónos, sef "amser".[2]
Cynhyrchwyd croniclau mewn nifer o ddiwylliannau hanesyddol, gan gynnwys Groeg a Rhufain hynafol, Ewrop yr Oesoedd Canol a'r Dadeni, Oes Aur Islam, Tsieina, a De Asia. Ysgrifennwyd croniclau gan fynachod, clerigwyr, a swyddogion llys, gan ganolbwyntio ar ddatblygiadau a dadleuon gwleidyddol, olyniaethau brehinol, rhyfeloedd, materion crefyddol, a digwyddiadau naturiol megis newyn a diffyg ar yr haul, ac yn dibynnu ar y traddodiad llafar, ffynonellau ysgrifenedig cynharach, a llygad-dystion. Cyfansoddwyd rhai ar fydr, ac ysgrifennwyd eraill mewn rhyddiaith, ac arddull yn amrywio o gofnodion byrion megis blwyddnodion syml i draethiadau estynedig llawn manylion. Datblygodd rhai ohonynt dros amser, gydag awduron olynol yn ychwanegu atynt, gan greu dogfennau byw.
Bu croniclau'n ddefnyddiol nid yn unig i ysgolheigion ond hefyd beirdd a ffuglenwyr. Yn ystod y Dadeni yn Lloegr, tynnai dramodwyr megis William Shakespeare ar groniclau am gefndir hanesyddol i'w gweithiau. Maent o hyd yn hynod o bwysig i hanesyddion fel ffynonellau cynradd, er gwaethaf gwallau a rhagfarnau eu hawduron.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ cronicl. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Rhagfyr 2025.
- ↑ (Saesneg) chronicle. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Rhagfyr 2025.